< Back

Global Action Plan yn derbyn cymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect Ysgolion Bywyd Da

(23/05/24)

English

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Global Action Plan wedi derbyn mwy na £1.1 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr cymunedol mwyaf y DU.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio i gefnogi prosiect Ysgolion Bywyd Da, sy’n rhaglen a arweinir gan fyfyrwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed i gryfhau’r berthynas rhwng ysgolion a’u cymuned leol i hyrwyddo diwylliant defnydd isel, carbon isel. Bydd myfyrwyr yn archwilio effeithio defnydd uchel, gan nodi’r pwysau mae hyn yn eu creu ac yn datblygu Siartr Bywyd Da i gymuned yr ysgol, gyda’r nod o greu diwylliant o newidiadau amgylcheddol cadarnhaol.

Bydd y prosiect yn weithredol mewn 60 ysgol yn Swydd Efrog, Canolbarth Lloegr, De Cymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr, gyda’r nod tymor hir o’i ail-greu yn genedlaethol, gan alluogi cymunedau ledled y DU i gyrchu’r rhaglen a’i chynnal yn annibynnol.

Mae'r grant hwn yn dod o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, sy’n ymrwymiad gwerth £100 miliwn dros ddeng mlynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y DU i gymryd camau ar newid yn yr hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu hinsoddol. Mae hyn yn rhan o bedair cenhadaeth allweddol y cyllidwr yn ei strategaeth 2030, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ – cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy’n amgylcheddol.

Meddai Dr Morgan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid Global Action Plan:

‘Nid yn unig mae gorddefnyddio’n achosi niwed i iechyd ein planed, mae ganddo hefyd effaith andwyol ar ein lles meddwl a chorfforol. Rydym ni wrth ein boddau i allu cyflwyno ein prosiect Ysgolion Bywyd Da i fwy o ysgolion a chymunedau ledled y DU, gan eu galluogi nhw i fynd i’r afael ag achos sylfaenol yr argyfwng yn yr hinsawdd drwy archwilio a phrofi’r hyn yw byw bywydau mwy bodlon ag effaith lai. Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, byddwn yn datblygu ar sail llwyddiant ein prosiect peilot yn Hammersmith a Fulham yn Llundain, lle gwnaeth pum ysgol fabwysiadu'r rhaglen newidiadau hon a arweinir gan fyfyrwyr’’.

Bydd y prosiect Ysgolion Bywyd Da yn lansio ar ddechrau blwyddyn ysgol 2024-25. 

Ysgolion Bywyd Da

Global Action Plan and National Lottery Community Fund logos